Cystadleuaeth i gantorion Cymreig ar ddechrau gyrfa proffesiynol.
Bydd yr enillydd yn cynrychioli Cymru yn BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023 ac yn dderbyn gwobr o £5000 a thlws y gystadleuaeth. Bydd pob un o’r cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £1,000
Cynhelir rownd derfynol y gystadleuaeth yn
Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd
Dydd Sul 30 Hydref 2022 am 3 o’r gloch y prynhawn
gydag ymarferion
Dydd Sadwrn 29 Hydref 2022
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu geni neu eu magu yng Nghyrmru neu fod wedi derbyn cyfran sylweddol o’u haddysg yng Nghymru.
Er mwyn bod yn gymwys rhaid i gantorion fod wedi eu geni rhwng 19 Mehefin 1990 a 9 Mehefin 2005.
Cynhelir y gwrandawiadau Dydd Sul 12 Mehefin 2022 yn Llundain a Dydd Sul 19 Mehefin yng Nghaerdydd.
Bydd panel o gerddorion nodedig yn dewis pump o gantorion i berfformio yn y Gyngerdd Terfynol. Cyhoeddir enw’r enillydd ar ddiwedd y Gyngerdd a bydd yn derbyn y brif wobr o £5,000 ac yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn BBC Canwr y Byd Caerdydd ym mis Mehefin 2023. Rhoddir gwobr o £1,000 yr un i’r cantorion eraill yn y rownd derfynol.
Cliciwch yma i lawr-lwytho Ffurflen Gais neu yma am y ffurflen ar-lein. Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Gweinyddwr, Sue Welch ar 07876 386428 neu ebostiwch hi ar welshsingersshowcase@gmail.com
Dylid anfon ffurflenni cais at Sue Welch, Cystadleuaeth Cantorion Cymreig, 41 Plas y Delyn, Llysfaen, Caerdydd CF14 0SS neu ar ebost i welshsingersshowcase@gmail.com
Rhaid derbyn ceisiadau erbyn dydd Gwener 3 Mehefin 2022